Tystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Sylweddau Seicoweithredol Newydd – 26ain Tachwedd 2014.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ac yn cyflwyno’r dystiolaeth ganlynol mewn perthynas â’r cylch gorchwyl penodol ar gyfer yr ymchwiliad. At ddibenion y dystiolaeth a gyflwynir mae pob cyfeiriad at sylweddau seicoweithredol newydd yn y papur hwn yn cynnwys ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’ yn ogystal â sylweddau seicoweithredol newydd eraill y gellid bod wedi cyfeirio atynt yn flaenorol fel cyffuriau penfeddwol cyfreithlon ond sydd bellach wedi cael eu rheoli gan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, gan gynnwys y rhai sy’n destun Gorchymyn Cyffuriau â Rheolaeth Dros Dro.

Caiff oddeutu £50 miliwn ei fuddsoddi’n flynyddol i gyflawni ymrwymiadau’r Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau 10 mlynedd, ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’ 2008-2018. Mae’r Strategaeth yn cydnabod yr effaith y mae camddefnyddio cyffuriau yn ei chael ar deuluoedd yn gyffredinol ac mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ystod o gamau gweithredu ar waith i roi mwy o wybodaeth i bobl am y niwed a’r effaith a gaiff camddefnyddio cyffuriau ar unigolion, eu teuluoedd a’u cymunedau. Caiff y strategaeth ei hategu gan Gynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2013-15 sy’n amlinellu’r camau penodol sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â sylweddau seicoweithredol newydd.

1.    Sut i godi ymwybyddiaeth o’r niwed sy’n gysylltiedig â’r defnydd o gyffuriau penfeddwol cyfreithlon ymhlith y cyhoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus perthnasol.

Mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid ym maes camddefnyddio sylweddau yn cymryd ystod o gamau gweithredu i godi ymwybyddiaeth o sylweddau seicoweithredol newydd ymhlith y cyhoedd a’r rhai sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus perthnasol. Mae’r camau gweithredu yn amrywio o ymgyrchoedd yn y cyfryngau ar y radio a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ar y cyd ag Undeb Rygbi Cymru a Pharc Hamdden Oakwood.  

 

Mae enghreifftiau penodol yn cynnwys yr ymgyrch ‘Gwybod y Sgôr’ a gaiff ei rhedeg gan Dan 24/7, llinell gymorth ddwyieithog Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Roedd yr ymgyrch, a gynhaliwyd rhwng mis Rhagfyr 2012 a mis Mawrth 2013 yn cynnwys lansiad Gweinidogol; hysbysebion radio a chyhoeddiadau ar Real Radio Cymru (Heart radio bellach); hysbysebion yn y wasg; y cyfryngau cymdeithasol a chysylltiad â thwrnament Rygbi’r Chwe Gwlad gyda byrddau arddangos mewn dwy o’r gemau. Rhoddodd yr ymgyrch bwyslais cryf ar feffedron o ganlyniad i’r achosion problematig niferus ar y pryd a’r angen i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r risgiau a’r niwed sy’n gysylltiedig â chymryd y cyffur hwn

 

O ganlyniad i’r ymgyrch cafwyd cynnydd o 82% yn nifer yr ymweliadau â gwefan DAN 24/7, cynnydd o 144% yn nifer yr ymweliadau uniongyrchol â’r dudalen meffedron a chynnydd o 39% yn nifer y galwadau i’r gwasanaeth. Cafwyd cynnydd sylweddol hefyd mewn gweithgarwch ar facebook a twitter yn ystod yr ymgyrch. Cynhaliwyd yr ymgyrch am yr eildro ar ddechrau 2014 er mwyn cwmpasu sylweddau seicoweithredol newydd ehangach a chafwyd llwyddiant tebyg.

 

Un o brif ymrwymiadau eraill Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod yr holl blant yng Nghymru yn cael eu diogelu rhag peryglon cyffuriau ac alcohol, a bod cymorth ar gael i’r rhai sy’n wynebu anawsterau. Buddsoddir dros £3 miliwn bob blwyddyn yn Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan. Menter ar y cyd yw hon rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a gyflwynir mewn 99% o ysgolion ledled Cymru, sy’n darparu addysg ar gamddefnyddio cyffuriau i blant a phobl ifanc yng nghyfnodau allweddol un i bedwar.

Caiff y Rhaglen ei hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod y cynnwys yn parhau i fod yn berthnasol a chafodd ei diweddaru’n ddiweddar i gynnwys darpariaeth ychwanegol sy’n canolbwyntio ar y niwed sy’n deillio o sylweddau seicoweithredol newydd. Datblygwyd pecynnau gwybodaeth hefyd ar sylweddau seicoweithredol newydd i ddisgyblion, athrawon a rhieni.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth arall ar sylweddau seicoweithredol newydd ar ddechrau 2015. Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd gyda DAN 24/7 i ehangu ei gwmpas drwy ymgyrchoedd wedi’u targedu ac i ehangu ymhellach y defnydd o’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu’n well â’r rhai sy’n defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd neu’r rhai a allai eu defnyddio.

Fel rhan o unrhyw gamau gweithredu i godi ymwybyddiaeth rydym yn deall ei bod yn bwysig sicrhau bod pob menter i atal ac addysgu yn cael ei chynllunio’n ofalus a’i chyflwyno mewn ffordd ystyriol a rhaid i ni gydbwyso hyn bob tro â’r perygl o wneud y mater dan sylw yn ddeniadol ac annog pobl, yn anfwriadol, i arbrofi.

2.      Gallu gwasanaethau lleol ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r niwed sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau penfeddwol cyfreithlon, ac i ymdrin ag effaith y niwed hwn.

 

Yn hanesyddol, mae gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru wedi cael eu sefydlu i ymateb i gyffuriau traddodiadol ac mae’r gweithlu wedi cael ei hyfforddi i fynd i’r afael â’r materion sy’n gysylltiedig â sylweddau o’r fath.

 

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae sylweddau megis meffedron wedi dod yn enwau cyffredin iawn yn y maes cyffuriau ac alcohol, ac o ganlyniad i hyn, meffedron oedd y cyffur mwyaf poblogaidd ond tri yn 2012 yn ôl Arolwg Troseddu Prydain (2012). Mae ymddangosiad y sylweddau seicoweithredol newydd hyn, ynghyd â lleihad graddol mewn sylweddau megis heroin dros gyfnod o amser, wedi creu her i asiantaethau camddefnyddio sylweddau i addasu i anghenion newidiol defnyddwyr cyffuriau. Yn ôl Llywodraeth Cymru, y prif fater i asiantaethau rheng flaen yw’r ystod o wasanaethau a ddarperir ac nid capasiti o reidrwydd. Dangosodd adroddiad camddefnyddio cyffuriau blynyddol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 30 Hydref 2014, fod cynnydd da wedi ei wneud o ran amseroedd aros ar gyfer triniaeth, a bod canran y cleientiaid a oedd yn dechrau triniaeth o fewn 20 diwrnod gwaith wedi cynyddu o 73% yn 2009-10 i 87% yn 2013-14, gan barhau â’r duedd o welliant dros y cyfnod 5 mlynedd.  

 

Mewn ymateb i’r heriau yn sgil ymddangosiad sylweddau seicoweithredol newydd a’r defnydd ohonynt, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd nifer o gamau dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod y gweithlu camddefnyddio sylweddau mewn sefyllfa dda i ymateb i’r bygythiad.

Ymhlith yr enghreifftiau mae datblygu sesiwn hanner diwrnod i drafod meffedron ar gyfer asiantaethau a gweithwyr o feysydd amrywiol sy’n ymwneud â defnyddwyr cyffuriau a phobl sy’n agored i niwed. Nod y sesiwn wybodaeth oedd gwella gwybodaeth am yr effeithiau, y risgiau a’r niwed posibl sy’n gysylltiedig â defnyddio meffedron a gwella’r ddealltwriaeth ohonynt.

Datblygwyd hyfforddiant pellach hefyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes camddefnyddio sylweddau ledled Cymru ynghylch y tueddiadau presennol o ran sylweddau seicoweithredol newydd. Bwriad y cwrs yw codi ymwybyddiaeth ynghylch sylweddau newydd sy’n cyrraedd y farchnad, cyfansoddiad ac effaith sylweddau o’r fath a rhoi cyngor i weithwyr proffesiynol ym maes camddefnyddio sylweddau ynghylch y ffordd orau o weithio gyda chleientiaid sy’n defnyddio’r sylweddau hyn.

Yn ogystal, cefnogodd Llywodraeth Cymru gynhadledd genedlaethol ym mis Mawrth 2013 a oedd yn canolbwyntio ar y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd. Llwyddodd y gynhadledd, a ddenodd lawer o weithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaethau, i helpu i godi proffil sylweddau seicoweithredol newydd ar draws y gymuned camddefnyddio sylweddau.

Mae ystod o daflenni, posteri a llyfrau gwaith wedi cael eu datblygu’n genedlaethol hefyd i helpu’r rhai sy’n gweithio gydag unigolion sy’n defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd yn ogystal â gofalwyr sy’n delio ag unrhyw faterion cysylltiedig.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi - yn ariannol ac yn weithredol - y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd gan yr heddlu sydd hefyd yn ceisio mynd i’r afael â sylweddau seicoweithredol newydd yn genedlaethol ac yn lleol. Yn genedlaethol, mae tasglu rhanbarthol Ymgyrch Tarian yn dod â’r tri heddlu yn ne Cymru ynghyd i dargedu grwpiau sy’n cyflawni troseddau trefnedig. Ar lefel leol mae Heddlu De Cymru yn codi ymwybyddiaeth drwy ei grŵp llywio sylweddau seicoweithredol newydd ac mae wedi trefnu hyfforddiant codi ymwybyddiaeth ar gyfer staff yr heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans, awdurdodau lleol a staff carchardai ynghylch y risgiau sy’n gysylltiedig â sylweddau seicoweithredol newydd. 

Sylweddau Seicoweithredol Newydd: Adolygiad Panel Arbenigwyr y Swyddfa Gartref

Ym mis Rhagfyr 2013, penododd y Swyddfa Gartref banel o arbenigwyr i ystyried y ffordd orau o fynd i’r afael â sylweddau seicoweithredol newydd gan gynnwys ystyried yr ymatebion i sylweddau seicoweithredol newydd o safbwynt addysg, atal a thriniaeth. Roedd yr adolygiad a gyhoeddwyd ar 30 Hydref 2014 yn gwneud nifer o argymhellion ynghylch ymyrraeth a thriniaeth; atal ac addysgu; a rhannu gwybodaeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr argymhellion fel rhan o’r gwaith datblygu sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i lywio’r Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau o 2015 ymlaen. Mae’r adroddiad i’w weld yn:

https://www.gov.uk/government/publications/new-psychoactive-substances-review-report-of-the-expert-panel

 

 

3.    Effeithiolrwydd y dulliau o gasglu data ac adrodd ar y defnydd o gyffuriau penfeddwol cyfreithlon yng Nghymru, a’u heffeithiau.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu neu ategu nifer o ddulliau casglu data i gofnodi’r defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd ledled Cymru:-

 

Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau

Mae Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cofnodi sylweddau sylfaenol pan gaiff rhywun ei atgyfeirio at wasanaethau triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Mae’n ofynnol i bob asiantaeth sy’n cael cyllid camddefnyddio cyffuriau gan Lywodraeth Cymru gyfrannu at y gronfa ddata ac mae ystadegau camddefnyddio sylweddau y Gronfa Ddata Genedlaethol ar gael ar wefan StatsCymru yn chwarterol ac fe’u cyhoeddir bob blwyddyn. Mae hyn yn caniatáu i gomisiynwyr a darparwyr fonitro nifer yr atgyfeiriadau sy’n ymwneud â sylweddau seicoweithredol newydd yn gyson ledled Cymru. Fodd bynnag, mae gan y Gronfa Ddata Genedlaethol ei chyfyngiadau am ei bod yn dibynnu ar ddarparwyr i fwydo gwybodaeth iddi yn amserol. Yn ogystal, ni chofnodir sylweddau eilaidd a thrydyddol sy’n arwain at dangofnodi a deallwn na fydd mwyafrif y defnyddwyr sylweddau seicoweithredol newydd yn cysylltu â gwasanaethau triniaeth arbenigol.

Y Gronfa Ddata Lleihau Niwed

Mae gan y gronfa ddata lleihau niwed fodiwl cyfnewid nodwyddau sy’n casglu gwybodaeth am bawb sy’n chwistrellu sylweddau seicoweithredol newydd ac sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfnewid nodwyddau. Cyflwynwyd y modiwl i bob gwasanaeth cyfnewid nodwyddau yn y sector gwirfoddol a statudol, gan gynnwys pob fferyllfa ledled Cymru. Fodd bynnag, nid yw’r gronfa ddata lleihau niwed yn cofnodi’r defnyddwyr sylweddau seicoweithredol newydd hynny nad ydynt mewn cysylltiad â rhaglenni cyfnewid nodwyddau ac nid ydynt ychwaith yn cofnodi’r nifer fawr o ddefnyddwyr sylweddau seicoweithredol newydd sy’n defnyddio dulliau gweinyddu eraill.

Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru

Lansiwyd Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru ym mis Hydref 2013 mewn ymateb i gynnydd yn nifer y defnyddwyr a oedd yn mynd i adrannau achosion brys ysbytai yn dioddef o effeithiau annisgwyl/niweidiol yn sgil sylweddau seicoweithredol newydd a chyfuniadau newydd o sylweddau gwella perfformiad/delwedd.

Datblygwyd y rhaglen gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Labordy Tocsicoleg Caerdydd a’r Fro ac Adran Ffarmacoleg Prifysgol Caerdydd, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n darparu fframwaith ar gyfer casglu a phrofi samplau o sylweddau seicoweithredol newydd a chyfuniadau o gyffuriau ynghyd â gwybodaeth am symptomau’r defnyddwyr, yn rhai disgwyliedig ac annisgwyl. 

Mae’r broses o gasglu’r canfyddiadau hyn, ynghyd â darganfod strwythur cemegol y samplau yn helpu i hwyluso’r gwaith o ddosbarthu gwybodaeth amserol a chywir i boblogaethau cyffredinol ac wedi’u targedu sy’n wynebu risg benodol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyfansoddiad sylweddau seicoweithredol newydd penodol, y niwed corfforol, seicolegol ac ymddygiadol posibl a allai ddeillio o ddefnyddio’r sylwedd, a chyngor iechyd y cyhoedd pragmataidd ar leihau niwed.

Y prosiect arloesol hwn yw’r cyntaf o’i fath yn y DU. Er mwyn datblygu’r prosiect ymhellach a gwella ei gwmpas, y cam nesaf yw rhoi’r Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd ar waith ym mhob adran achosion brys ledled Cymru ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda byrddau iechyd i gyflawni hyn. Y gobaith yw y bydd y prosiect yn weithredol ym mhob adran achosion brys erbyn mis Ebrill 2015.

Amcangyfrif o nifer yr achosion o ddefnyddio cyffuriau mewn ffordd broblemus

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud amcangyfrif o nifer yr achosion o ddefnyddio cyffuriau mewn ffordd broblemus gan gynnwys opioidau, cocên/crac cocên, amffetaminau a sylweddau tebyg i amffetaminau yn cynnwys sylweddau seicoweithredol newydd a cathinones ar gyfer y cyfnod deng mlynedd 2011/12 i 2020/21. Ar hyn o bryd rydym yn aros am gymeradwyaeth foesegol a disgwylir i’r gwaith ddechrau yn 2015.

Ymgyrch Tarian, Tasglu Rhanbarthol dan arweiniad yr Heddlu

Lluniodd Ymgyrch Tarian, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, broffil problemau yn sgil defnyddio a chyflenwi meffedron yng Nghymru yn 2012. Canolbwyntiodd y proffil ar gyfnod 24 mis rhwng 1 Ebrill 2010 a 31 Mawrth 2012 gan ddadansoddi nifer yr arestiadau, atafaeliadau ac argaeledd meffedron. Roedd yr adroddiad, a gwblhawyd mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys dadansoddwyr yr heddlu a swyddogion comisiynu camddefnyddio sylweddau yn rhoi trosolwg o nifer yr achosion o ddefnyddio meffedron ledled y rhanbarth (a ddadansoddwyd fesul heddlu yng Nghymru), ac yn cymharu nifer yr arestiadau, atafaeliadau ac argaeledd meffedron ar gyfer y cyfnodau 2011/2012 a 2010/2011. Roedd hefyd yn nodi ardaloedd risg lle y cafwyd y nifer fwyaf o achosion o ddefnyddio meffedron yng Nghymru.

Mae’r adroddiadau hyn yn galluogi asiantaethau partner i ddatblygu cynlluniau atal a gorfodi effeithiol ac i roi strategaeth gyfathrebu effeithiol ar waith drwy negeseuon allweddol.

Ymchwil

Gwnaed gwaith ymchwil, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Heddlu De Cymru yn 2012, er mwyn darparu’r asesiad manwl cyntaf o’r cysylltiadau posibl rhwng y defnydd o feffedron, trais ac achosion eraill o niwed yn Ne Cymru. Roedd y gwaith ymchwil yn cyfuno data o arolwg o 67 o ddefnyddwyr ledled De Cymru â chyfweliadau manwl lled-strwythuredig gyda 12 o ddefnyddwyr meffedron ac 20 o ymarferwyr ‘arbenigol’ a oedd yn gweithio gyda defnyddwyr er mwyn ymchwilio ymhellach i effeithiau amrywiol meffedron ac, yn benodol, ei gysylltiadau â thrais.  Ceir copi o’r adroddiad yn: http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/substancemisuse/research/harm/?lang=cy

Yn gryno, nid oes un ffynhonnell casglu data ar gyfer sylweddau seicoweithredol newydd yng Nghymru sy’n adlewyrchu’r sefyllfa mewn rhannau eraill o’r DU. Fodd bynnag, mae’r systemau casglu data amrywiol sydd ar gael yn golygu bod modd i Lywodraeth Cymru, yr Heddlu a phartneriaid eraill megis comisiynwyr camddefnyddio sylweddau a darparwyr adeiladu darlun o’r defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd ar draws pob rhanbarth.

 

 

4.    Y dulliau deddfwriaethol posibl o fynd i’r afael â’r mater o gyffuriau penfeddwol cyfreithlon, ar lefel Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am ddeddfu a phennu dosbarth cyffuriau. Ystyriodd panel arbenigol y Swyddfa Gartref, y cyfeiriwyd ato ym mhwynt 2 uchod, y ffordd orau o fynd i’r afael â sylweddau seicoweithredol newydd, gan gynnwys adolygu’r fframwaith cyfreithiol presennol i weld a ellid gwella’r dull gweithredu presennol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Wrth wneud hynny adolygodd y panel effeithiolrwydd ymateb deddfwriaethol a gweithredol presennol y DU ac edrychodd ar dystiolaeth ryngwladol a thystiolaeth arall er mwyn nodi opsiynau deddfwriaethol i wella’r dull gweithredu hwn.

Nododd adroddiad y panel arbenigol fod Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn eglur ac y dylai barhau i fod yn brif ddull rheoli sylweddau seicoweithredol newydd niweidiol, gan ddefnyddio diffiniadau grŵp lle y bo’n briodol. Fodd bynnag, argymhellodd y panel arbenigol ddull deddfwriaethol ychwanegol, gan gynnwys ymchwilio i sylfaen newydd ar gyfer rheoli cannabinoidau synthetig yn y dyfodol. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn argymell ymchwilio i ymarferoldeb trosedd a fyddai’n berthnasol i’r DU gyfan lle y gwaherddir dosbarthu sylweddau seicoweithredol newydd nas rheolir i bobl eu cymryd, yn seiliedig ar y dull sydd ar waith yng Ngogledd Iwerddon ers 2010.

Yn ei hymateb mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argymhellion yn ogystal â nifer o rai eraill gan gynnwys:-

•               Parhau i ddiweddaru’r diffiniadau grŵp a ddefnyddir yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 ar sail cyngor arbenigol annibynnol drwy system o adolygiadau rheolaidd drwy’r Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau (Cyngor Cynghorol), lle y bo’n briodol.

•   Ystyried manteision ymestyn hyd y gorchmynion cyffuriau dosbarth dros dro o 12 i 24 mis, gan roi mwy o amser i’r Cyngor Cynghorol roi cyngor.

•               Gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i ddiweddaru ei ganllawiau presennol ar droseddau cyffuriau i gynnwys sylweddau seicoweithredol newydd a reolir a chyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol i ddiweddaru’r canllawiau yn 2013 i adlewyrchu’r achosion a’r datblygiadau diweddaraf.

·         Datblygu dealltwriaeth drwyadl o faint y bygythiad yn sgil y rhyngrwyd, a gallu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i fynd i’r afael â hynny.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn cadarnhau y bydd y goblygiadau ar gyfer y meysydd hynny a gwmpesir gan yr adroddiad sydd wedi’u datganoli i Gymru yn cael eu hystyried ac yr eir i’r afael â hwy fel rhan o’r cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau newydd sy’n cael ei ddatblygu yn 2015. Fodd bynnag, dylid nodi bod ein fframwaith polisi yng Nghymru eisoes wedi’i seilio’n gadarn ar egwyddorion lleihau niwed a thriniaeth i’n galluogi i ymateb i anghenion unigolion a chymunedau. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y ffaith bod camddefnyddio sylweddau yn rhan o’r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ac fe’i amlygir gan y camau gweithredu sydd yn ein cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau presennol ar gyfer 2013-15.

Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw deddfu a phennu dosbarth cyffuriau, croesewir adroddiad y panel arbenigol. Mae hwn yn faes lle y mae’n fuddiol cael dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan i bennu dosbarth cyffuriau ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ragor o bwerau yn y maes hwn. Fodd bynnag, nid oes angen i unrhyw ddull gweithredu DU gyfan gael ei arwain gan Lywodraeth y DU o reidrwydd a gallai gael ei roi ar waith mewn partneriaeth gan bedair gweinyddiaeth y llywodraeth.

Ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ganllawiau i awdurdodau lleol ynghylch cymryd camau yn erbyn siopau cyffuraiu cyffreithlon (‘head shops’) sy’n gwerthu sylweddau seicoweithredol newydd. Cyhoeddwyd y canllawiau o ganlyniad i bryderon blaenorol bod siopau cyffuriau cyfreithlon mewn rhai ardaloedd yn achosi cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau iechyd. Ystyrir yn gyffredinol, gan fod y cynhyrchion a werthir yn y siopau hyn yn gyfreithlon (ar y cyfan), nad oes dim y gall awdurdodau lleol nac awdurdodau gorfodi’r gyfraith ei wneud i’w hatal ac i leihau’r difrod a achosir ganddynt.

Er nad oes ateb syml i’r mater hwn, mae opsiynau i bartneriaid lleol gydweithio i fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan sylweddau seicoweithredol newydd. Ym Mhapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd pwysleisiwyd y dylai ystyried iechyd y cyhoedd fod yn un o’r amcanion trwyddedu statudol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Byddai hyn yn golygu y gellid gwrthwynebu ceisiadau trwyddedu ar y sail eu bod yn rhoi’r broses o ddiogelu iechyd y cyhoedd yn y fantol. Byddai hyn, er enghraifft yn rhoi mwy o gyfle i ddefnyddio data iechyd wrth drwyddedu penderfyniadau ac i ystyried sut y dylai goblygiadau ehangach iechyd y cyhoedd ddylanwadu ar benderfyniadau trwyddedu.

5.    Pa mor effeithiol y caiff y dull partneriaeth i fynd i’r afael â’r mater o gyffuriau penfeddwol cyfreithlon yng Nghymru ei gydlynu, o fewn Cymru a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’ yn atgyfnerthu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod gwasanaethau yn darparu pecyn gofal cyfannol i unigolion. Mae’r gwaith partneriaeth yng Nghymru wedi bod yn bellgyrhaeddol ac wedi cynnwys ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol â chamddefnyddio sylweddau, economi’r hwyrnos, y cyhoedd cyffredinol a’r rhai sy’n defnyddio sylweddau. Ymhlith yr enghreifftiau o waith partneriaeth da yn y maes hwn mae Byrddau Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau a’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar Gamddefnyddio Sylweddau sy’n cynnwys ystod o bartneriaid sef comisiynwyr, defnyddwyr gwasanaethau, asiantaethau trin, cynrychiolwyr iechyd a chynrychiolwyr y maes cyfiawnder troseddol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi ac yn cyfrannu at Grwpiau Lleihau Niwed, Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru ac mae ganddi gysylltiadau da â’r Heddlu, NOMS Cymru, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a’r gwasanaeth prawf.

Mae cysylltiad rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch ystod o faterion camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys yr heriau a gyflwynir gan sylweddau seicoweithredol newydd, drwy ffrydiau gwaith cyffuriau ac alcohol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Drwy gyfrwng y cyfarfodydd hyn gellir lledaenu a rhannu gwybodaeth ac arferion gorau ar draws pedair gweinyddiaeth Llywodraeth y DU a Llywodraethau Ynys Manaw, Jersey, Guernsey a Gweriniaeth Iwerddon.

Ceir cysylltiadau da hefyd rhwng Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru a Chyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau Llywodraeth y DU. Mae cadeirydd y Panel Cynghori hefyd yn aelod o’r Cyngor Cynghorol ac mae’n sicrhau bod y ffrydiau gwaith, lle y bo’n briodol, yn gysylltiedig â rhai y Cyngor Cynghorol er mwyn sicrhau bod gwaith ymchwil ac arbenigedd yn cael eu rhannu.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad o Ganllawiau Clinigol y DU ar Gamddefnyddio Sylweddau. Mae’r canllawiau wedi cael effaith fawr o ran ategu arfer clinigol da, ac maent yn parhau i fod yn sylfaen ar gyfer y dull o drin dibyniaeth ar gyffuriau yn y DU. Bydd yr adolygiad, sy’n cynnwys swyddogion ar draws y pedair gweinyddiaeth yn y DU sy’n gyfrifol am drin cyffuriau, yn ystyried cynnwys sylweddau seicoweithredol newydd yn y canllawiau diwygiedig. Rhagwelir y bydd canllawiau clinigol newydd ar gael erbyn hydref 2015.

6.     Tystiolaeth ryngwladol am ddulliau o ymdrin â chyffuriau penfeddwol cyfreithlon mewn gwledydd eraill.

Mae gwledydd yn ymateb i’r twf yn y galw am sylweddau seicoweithredol newydd a’u cyflenwad, a’r niwed cysylltiedig mewn tair prif ffordd: gorfodi, atal a thriniaeth. Ar hyn o bryd gellir cymryd ystod o gamau gweithredu gwahanol i roi sylweddau seicoweithredol newydd o dan reolaeth gyfreithiol. Mae’r rhain yn cynnwys ychwanegu sylweddau newydd i Gonfensiynau 1961 neu 1971 y Cenhedloedd Unedig; defnyddio System Rhybudd Cynnar Ewrop i nodi sylweddau seicoweithredol newydd a’u rhoi o dan reolaeth; a mesurau cenedlaethol amrywiol sy’n cynnwys defnyddio deddfwriaeth diogelwch y cyhoedd neu ddeddfwriaeth meddyginiaethau, ehangu ac addasu cyfreithiau a phrosesau sy’n bodoli eisoes, neu ddyfeisio deddfwriaeth newydd ar gyfer sylweddau newydd.

Mae cadeirydd y Panel Cynghori wedi sefydlu cysylltiadau cadarn â Grŵp Pompidou, grŵp Ewropeaidd sy’n cymryd camau i fynd i’r afael ag achosion o gamddefnyddio cyffuriau a masnachu cyffuriau’n anghyfreithlon.

Yng Nghymru mae Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru yn cyfrannu’n uniongyrchol at Ganolfan Monitro Cyffuriau a Chaethiwed i Gyffuriau Ewrop. Diben y Ganolfan yw rhoi trosolwg ffeithiol o broblemau cyffuriau yn Ewrop i’r UE a’i Aelod-wladwriaethau ynghyd â sylfaen dystiolaeth gadarn i ategu’r drafodaeth ar gyffuriau. Mae’n cynnig y data sydd eu hangen ar wneuthurwyr polisïau i lunio cyfreithiau a strategaethau cyffuriau ar sail gwybodaeth, ac mae’n helpu gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr yn y maes i nodi arferion gorau a meysydd ymchwil newydd.